Yn ôl diolch i alw mawr - ar daith fendigedig i ddathlu cerddoriaeth hynod Billy Joel.
“Mae Elio'n wych…Dwi'n dipyn o ffan. Cerddoriaeth wedi ei chreu yn y ffordd hen ffasiwn…” Huey Lewis
Gyda rhai o'r caneuon poblogaidd dros ben fel Uptown Girl, Just The Way You Are a My Life yn ogystal â hoff ganeuon y selogion, fel Scenes From An Italian Restaurant, Goodnight Saigon a Piano Man.
Peidiwch â cholli'r cyngerdd wefreiddiol hon gan y canwr/cyfansoddwr a'r pianydd deinamig, Elio Pace, a'i fand rhyfeddol o 6.
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.